OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1951(Cy.215 ) (C.70)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Mae’r Gorchymyn yn dwyn i rym adrannau 21 a 22 o Fesur 2009 ar 1 Medi 2011.
Mae adran 21 o Fesur 2009 yn dileu’r cyfeiriadau at y cyfnod allweddol cyntaf o Ran 7 o Ddeddf Addysg 2002 ac mae hefyd yn rhoi cyfeiriadau at y “foundation phase” yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 yn lle cyfeiriadau at y “foundation stage”.
Mae adran 22 o Fesur 2009 yn gwneud mân ddiwygiadau i adrannau 33F(1)(a) a 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae’r ddarpariaeth ganlynol o Fesur Addysg (Cymru) 2009 wedi ei dwyn i rym gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth |
Y dyddiad cychwyn |
O.S. Rhif |
Adran 20 |
10 Mehefin 2011 |
2011/1468 (Cy.137) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1951(Cy.215 ) (C.70)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011
Gwnaed 29 Gorffennaf 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 26 o Fesur Addysg (Cymru) 2009([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.
Cychwyn
2. Mae adrannau 21 (Y cyfnod sylfaen) a 22 (Hawliau mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed) o Fesur 2009 i ddod i rym ar 1 Medi 2011.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Gorffennaf 2011